Cyfarfodydd agos

Mewn iwffoleg, cyfarfod agos yw ddigwyddiad lle mae person yn dyst i wrthrych hedegog anhysbys. Cafodd y derminoleg hon a'r system ddosbarthu y tu ôl iddi eu hawgrymu yn gyntaf mewn llyfr y seryddwr ac ymchwilydd UFO, J. Allen Hynek yn 1972 o'r enw The UFO Experience: A Scientific Enquiry.[1] Mae categorïau y tu hwnt i'r tri gwreiddiol Hynek wedi cael eu hychwanegu gan eraill, ond nid ydynt wedi cael eu derbyn yn gyffredinol, yn bennaf oherwydd nad oes ganddyn nhw'r trylwyredd gwyddonol yr oedd Hynek yn ceisio dod i iwffoleg.[2]

Caiff arsylwadau sydd mwy na 500ft (150m) o'r tyst eu dosbarthu fel "disgiau golau dydd", "goleuadau nos", neu "adroddiadau radar-weledol".[1] Caiff arsylwadau sydd o fewn 500ft (150m) o'r tyst eu his-ddosbarthu fel gwahanol fathau o "gyfarfodydd agos". Dadleuodd Hynek ac eraill bod yn rhaid i gyfarfodydd agos honedig ddigwydd o fewn tua 500ft (150m) er mwyn lleihau neu ddileu'r posibilrwydd o gam-adnabod awyrennau confensiynol neu ffenomenau hysbys eraill.[1]

Daeth graddfa Hynek yn adnabyddus ar ôl cael ei chyfeirio ato yn y ffilm Close Encounters of the Third Kind ym 1977, a enwir ar ôl trydedd lefel y raddfa. Roedd posteri'r ffilm yn cynnwys tair lefel y raddfa, ac mae Hynek ei hun yn gwneud ymddangosiad cameo ar ddiwedd y ffilm.

  1. 1.0 1.1 1.2 Hynek, Allen J. (1998) [First published 1972]. The UFO Experience: A Scientific Inquiry. Da Capo Press. ISBN 978-1-56924-782-2.
  2. Clark, Jerome (1998). The UFO Book. Detroit: Visible Ink Press.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search